Beth os ydw i wedi anghofio fy rhif PIN?
Os byddwch yn anghofio’ch PIN diogelwch i gyrchu’ch cofnod meddygol ar-lein, gallwch ei ailosod:
- Mewngofnodwch i Fy Iechyd Ar-lein yn y ffordd arferol.
- Dewiswch Fy Nghyfrif a dewiswch PIN Diogelwch.
- Cwblhewch fel y bo’r angen:
- PIN Diogelwch Newydd – Rhowch y rhif PIN diogelwch pedwar digid yr hoffech ei ddefnyddio.
- Cadarnhau PIN Diogelwch - Rhowch y rhif PIN pedwar digid newydd eto i’w gadarnhau.
- Cwestiwn Diogelwch ar Hap - Rhowch yr ateb y gwnaethoch ei osod pan sefydloch eich opsiynau diogelwch ar gyfer eich Cofnod Meddygol yn wreiddiol.
- Dewiswch Diweddaru i gadw a chau.
Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.